Sengl ddwbl yn flas o albwm Y Dail

Mae’r prosiect cerddorol o Bontypridd, Y Dail, wedi ryddhau sengl ddwbl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 22 Mawrth.  ‘My Baby’s In The FBI’ a ‘Pedwar Weithiau Pump’ ydy enwau’r traciau newydd gan Y Dail sy’n cynnig blas o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar albwm cyntaf y prosiect sydd allan yn fuan.

Alffa yn mynd i Ganada

Mae Alffa wedi datgelu y byddan nhw’n teithio i Ganada i berffiormio ym mis Mehefin eleni. Cyhoeddodd y ddeuawd wythnos diwethaf y byddan nhw’n chwarae yng ngŵyl NXNE yn ninas Toronto a gynhelir rhwng 12 a 16 Mehefin.