EP cyntaf Stiwdio 3
‘Tyrfe yn Dod’ ydy enw’r EP newydd gan Stiwdio 3, y band sy’n cynnwys cyn aelodau o’r grŵp chwedlonol, Crys.
‘Tyrfe yn Dod’ ydy enw’r EP newydd gan Stiwdio 3, y band sy’n cynnwys cyn aelodau o’r grŵp chwedlonol, Crys.
Y canwr-gyfansoddwr o Stiniog, Gai Toms, ydy’r diweddaraf i dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar.
Mae’r prosiect cerddorol newydd, Sylfaen, wedi rhyddhau ail sengl ar label Recordiau Côsh. ‘Byw yn Awr’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener 9 Chwefror, ac sy’n gweld Sylfaen yn cyd-weithio unwaith eto gyda cherddor amlwg.
Bydd y cyflwynydd radio Huw Stephens yn cyhoeddi llyfr newydd am recordiau o Gymru ym mis Mai eleni.
Mae Meinir Gwilym wedi rhyddhau un o draciau ei halbwm diweddaraf fel sengl ers dydd Gwener diwethaf, 9 Chwefror.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi cyhoeddi fideo arbennig o Dylan Hughes o’r band Ynys yn perfformio’n fyw yng nghrombil adeilad y Llyfrgell.
Mae Lwp, S4C wedi cyhoeddi film fer arbennig iawn dan y teitl ‘Sut gân sydd yma yng Nghymru?’ i nodi Dydd Miwsig Cymru ar 9 Chwefror.
Mae Gŵyl Gerddoriaeth FOCUS Wales yn Wrecsam wedi cyhoeddi 100 o artistiaid pellach fydd yn perfformio yno ym mis Mai eleni.
Mae Y Selar wedi datgelu rhestrau byr ein gwobrau cerddorol blynyddol, Gwobrau’r Selar eleni. Daw’r newyddion ar ôl i’r bleidlais gyhoeddus gau ar nos Fercher 7 Chwefror, a bydd yr holl enillwyr yn cael eu datgelu ar raglenni amrywiol BBC Radio Cymru dros yr wythnos nesaf, gan ddechrau gyda’r cyhoeddiad cyntaf ar nos Lun 12 Chwefror.