Neidio i'r cynnwys

  • Newyddion
  • Pump i’r Penwythnos
  • Clwb Selar
  • Gwobrau’r Selar
  • Gigs
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram

Categori: Newyddion

Y Selar Postiwyd ar 23 Tachwedd 2023

Sengl electronig newydd gan M-digidol

‘Catdisco Remix’ yw’r cynnig diweddaraf gan yr artist electroneg newydd, M-digidol. Cafodd sengl gynta’r artist, ‘Un Dau Tri Pedwar’, ei ryddhau yn ôl ym mis Medi ar label HOSC.

Categorïau: NewyddionTagiau: M-digidol
Y Selar Postiwyd ar 22 Tachwedd 2023

Llais cyfarwydd ar sengl ddiweddara’ Popeth

Mae’r band ‘pop positif’, Popeth, wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf sy’n cynnwys llais cyfarwydd fel gwestai arbennig.  ‘Acrobat’ ydy enw’r gân diweddaraf gan Popeth, sydd allan ers 20 Tachwedd ac sy’n cynnwys  llais arbennig ac unigryw Leusa Rhys (o’r grŵp Serol Serol) yn canu ar y trac.

Categorïau: NewyddionTagiau: Leusa Rhys, Popeth
Y Selar Postiwyd ar 22 Tachwedd 2023

Carwyn Ellis  yn rhyddhau ‘Llythr y Glowr’

Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 17 Tachwedd. Cyfieithiad Cymraeg o’r gân ‘In Your Memory’ yw ‘Llythr y Glowr’, a ymddangosodd yn wreiddiol ar albwm 2017 Colorama, ‘Some Things Just Take Time’.

Categorïau: NewyddionTagiau: Carwyn Ellis
Y Selar Postiwyd ar 20 Tachwedd 2023

Albwm Angharad Jenkins a Huw Warren

Mae dau o gerddorion fwyaf blaenllaw Cymru, o feysydd gwerin a jazz, wedi dod ynghyd am y tro cyntaf, gyda’u halbwm o gerddoriaeth Nadoligaidd.  ‘Calennig’ ydy enw’r record newydd, ac mae wrth gwrs yn cyfeirio at y traddodiad o ddathlu a chroesawu’r Flwyddyn Newydd.

Categorïau: NewyddionTagiau: Angharad Jenkins
Y Selar Postiwyd ar 14 Tachwedd 2023

EP Mali Hâf o ‘synau difyr pop electronig’

Mae Mali Hâf wedi rhyddhau ei EP newydd ers dydd Gwener 3 Tachwedd. Jig-so ydy enw’r record fer newydd sydd allan drwy Recordiau Côsh.

Categorïau: Erthyglau cylchlythyr, NewyddionTagiau: Mali Hâf
Y Selar Postiwyd ar 14 Tachwedd 2023

EP cyntaf Alis Glyn

Bydd y gantores ifanc o Gaernarfon, Alis Glyn, yn ryddhau ei EP cyntaf ar ddydd Gwener 17 Tachwedd. ‘Pwy Wyt Ti?’ ydy enw’r record fer newydd sy’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Aran.

Categorïau: Erthyglau cylchlythyr, Newyddion
Y Selar Postiwyd ar 14 Tachwedd 2023

Rhyddhau Albwm Cyntaf Kim Hon

Mae’r grŵp indie-psych-roc o Ogledd Cymru, Kim Hon, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf hunan-deitledig a hir-ddisgwyliedig ers dydd Gwener diwethaf, 10 Tachwedd.

Categorïau: Erthyglau cylchlythyr, Newyddion, Prif StoriTagiau: Kim Hon
Y Selar Postiwyd ar 13 Tachwedd 2023

Cyfle cyntaf i glywed…’Dal Dig’ gan Buddug

Pleser o’r mwyaf ydy hi i’r Selar gyflwyno nid yn unig trac newydd sbon, ond artist newydd sbon danlli i chi yr wythnos yma!

Categorïau: NewyddionTagiau: Buddug
Y Selar Postiwyd ar 12 Tachwedd 2023

Rhyddhau albwm newydd Pasta Hull

Mae’r band amgen o Gaernarfon, Pasta Hull, wedi rhyddhau eu halbwm newydd. ‘Mmm Beanz’ ydy enw record hir ddiweddaraf y grŵp aml-arddull ac mae wedi’i rhyddhau ar y llwyfannau digidol arferol.

Categorïau: NewyddionTagiau: Pasta Hull

Llywio cofnodion

Cofnodion hŷn
Cofnodion mwy diweddar
  • Darllen y Cylchgrawn
  • Cefndir Y Selar
  • Cysylltu
  • Clwb Senglau’r Selar
  • Gigs
  • Cwcis a phreifatrwydd

Hawlfraint © 2026 Y Selar.

Noddir gan Lywodraeth Cymru
Scroll Up