Sefydlu cymdeithas labeli recordiau cyntaf Cymru
Ar ôl bod yn cyfarfod yn achlysurol ers sawl blwyddyn, mae rhai o brif labeli recordiau Cymru wedi penderfynu ffurfioli sefydlu Cymdeithas Labeli Cymru a mynd ati i ddatblygu rhaglen waith flynyddol.
Os nad oeddech chi’n gwrando ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru neithiwr, yna rydach chi wedi colli Guto Brychan yn cyhoeddi pwy sy’n chwarae lle a phryd ar lwyfannau swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi mai Cpt Smith fydd y grŵp nesaf i ryddhau sengl fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar.
Mae’r Selar yn falch iawn i gydweithio â’r Urdd i lunio amserlen llwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili ddiwedd mis Mai.
Mae’r diweddaraf o senglau Clwb Senglau’r Selar, ‘Neb yn Aros’ gan Terfysg allan i’w lawr lwytho’n ddigidol rŵan.
Y grŵp ifanc addawol o Fôn, Terfysg, fydd y diweddaraf i ymuno â Chlwb Senglau’r Selar. Bydd eu seng gyntaf, ‘Neb yn Aros’, allan i’w lawr lwytho’n ddigidol fory, dydd Mercher 29 Ebrill.
Mae sengl gyntaf y grŵp o Fachynlleth, Henebion, ‘Mwg Bore Drwg’ wedi’i ryddhau heddiw (25/03/15) fel y diweddaraf o ganeuon Clwb Senglau’r Selar.
Y grŵp ifanc addawol o Fachynlleth, Henebion, fydd y nesaf i ymuno â Chlwb Senglau cylchgrawn Y Selar wrth iddyn nhw ryddhau’r gân ‘Mwg Bore Drwg’ ar 25 Mawrth.
Yws Gwynedd, Candelas a Sŵnami oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar a gynhaliwyd yn Aberystwyth neithiwr.
Mae Ysgol Sul bellach wedi ymuno’n swyddogol â’r Clwb – Clwb Senglau’r Selar hynny ydy! Sengl gyntaf y grŵp addawol o Landeilo, ‘Aberystwyth yn y Glaw’, ydy’r drydedd sengl i’w rhyddhau fel rhan o brosiect senglau Y Selar.