Y diweddaraf

Rhyddhau EP Lowri Evans

Mae Lowri Evans wedi rhyddhau ei EP newydd ers dydd Gwener diwethaf, 12 Ebrill. ‘Beth am y gwir?’ ydy enw’r EP newydd gan y cerddor profiadol, ac fe ddaw yn dilyn rhyddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd yn gynharach eleni.