Cyhoeddi manylion taith Eve Goodman a Sera
Mae’r ddeuawd swynol, Eve Goodman a Sera, wedi cyhoeddi manylion eu taith ar y cyd yn y flwyddyn newydd.
Mae’r ddeuawd swynol, Eve Goodman a Sera, wedi cyhoeddi manylion eu taith ar y cyd yn y flwyddyn newydd.
Mae Mellt wedi cyhoeddi fideo ar gyfer eu sengl ddiweddaraf, ‘Weatherman’. Rhyddhawyd ‘Weatherman’ ar 26 Tachwedd, a dyma’r ail sengl o EP nesaf Mellt, gan ddilyn ‘Big Bird’ a ryddhawyd yn mis Hydref.
Mae’r gantores boblogaidd o Sir Benfro, Lowri Evans, wedi rhyddhau ei sengl Nadolig newydd. ‘Arhosa amdana i (o dan y goeden Nadolig)’ ydy enw’r trac Nadoligaidd ganddi sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 5 Rhagfyr.
Mae Wigwam wedi rhyddhau eu EP newydd, ‘Paid â Gosod Larwm’, ar label Recordiau Jigcal. Am y tro cyntaf ers 7 blynedd, dyma weld Wigwam yn rhyddhau casgliad estynedig o gerddoriaeth – un sy’n cyfleu aeddfedrwydd parhaol eu sain.
Mae Mali Hâf yn un arall o’r artistiaid Cymraeg cyfoes sy’n rhyddhau sengl Nadolig eleni. ‘Celyn’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd ar gael i’w chwarae ar y radio yn unig.
Mae trefnwyr Gŵyl Fel ‘na Mai yn Sir Benfro wedi cyhoeddi manylion arlwy’r digwyddiad ar gyfer 2026.
Mae Angharad Rhiannon wedi rhyddhau ei sengl Nadolig diweddaraf – ‘Caneuon Nadolig’ ydy enw’r trac newydd ganddi.
Mae Awst, sef prosiect unigol y cerddor Cynyr Hamer, wedi rhyddhau albwm newydd ar ei safle Bandcamp.
Mae’r siwpyr grŵp sy’n gyfarwydd am eu cyfyrs bachog, Ciwb, wedi ymuno â’r don o artistiaid Cymraeg sy’n rhyddhau senglau Nadolig eleni. ‘Nadolig Llawen Gwyn’ ydy enw’r trac newydd ganddynt sydd allan ers diwrnod cyntaf y mis – fersiwn newydd sbon o’r trac sy’n wreiddiol gan Bob Delyn a’r Ebillion.