Ar Dâp: Tara Bandito

Tara Bandito ydy gwestai diweddaraf y gyfres gerddoriaeth Lŵp: Ar Dâp. Mae modd gweld y sesiwn fyw gan y gantores amryddawn ar lwyfannau digidol Lŵp nawr…er ei bod hi’n werth crybwyll bod rhybudd iaith gref ar y darllediad.

Sengl ddiweddaraf Popeth

Mae sengl ddiweddaraf y prosiect pop Cymraeg newydd, Popeth, allan ddydd Gwener nesaf, 21 Hydref. Popeth ydy prosiect cerddorol Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn, sy’n rhoi pwyslais ar gydweithio i gynhyrchu pop Cymraeg i’r byd!