Fideo ‘Disgwyl’ Dom a Lloyd ar Lŵp
Mae fideo ar gyfer sengl newydd Dom & Lloyd wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. ‘Disgwyl’ ydy enw’r trac newydd i ollwng gan y ddeuawd hip-hop, ac mae ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol.
Mae fideo ar gyfer sengl newydd Dom & Lloyd wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. ‘Disgwyl’ ydy enw’r trac newydd i ollwng gan y ddeuawd hip-hop, ac mae ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol.
Neithiwr, ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd fe gyhoeddwyd pa artistiaid fydd yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar ar 1 Mawrth, ynghyd â dwy o’r rhestrau byr eleni.
Mae’r cerddor a’r cynhyrchydd adnabyddus, Don Leisure, wedi cyd-weithio gydag un o gerddorion amlycaf Cymru, Gruff Rhys ar ei sengl ddiweddaraf.
Mae’r cerddor gwerin gweithgar, Gwilym Bowen Rhys, wedi rhyddhau ei albwm newydd ers dydd Llun 20 Ionawr.
Ydy, mae’r bleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar 2024 wedi cau’n glep neithiwr, 22 Ionawr.
Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau ei sengl diweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 17 Ionawr. ‘Marae’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ar label Recordiau Bubblewrap.
Mae Hap a Damwain, sef y band amgen ac arbrofol o Fae Colwyn, wedi rhyddhau eu halbwm newydd dan yr enw Diwedd Hanes.
Bydd y rapiwr toreithiog Mr Phormula yn rhyddhau ei sengl newydd ar ddydd Gwener 25 Ionawr. ‘Oi!’ ydy enw’r trac diweddaraf i lanio gan y rapiwr, cynhyrchydd a bîtbocsiwr o fri, a bydd yn cael ei ryddhau ar ei label ei hun, Mr Phormula Records.
Mae Recordiau Sain a gwefan gerddoriaeth Klust wedi cyhoeddi bydd yr albwm aml-gyfrannog, ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’, yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar 17 Ionawr.