Datgelu rhestrau byr ‘Artist Unigol’ a ‘Chân Orau’ Gwobrau’r Selar
Mae’r rhestrau byr ar gyfer dau o gategorïau Gwobrau’r Selar wedi eu datgelu ers nos Fercher 5 Chwefror.
Mae’r rhestrau byr ar gyfer dau o gategorïau Gwobrau’r Selar wedi eu datgelu ers nos Fercher 5 Chwefror.
Mae trefnwyr Gŵyl Tawe yn Abertawe wedi cyhoeddi manylion cyntaf y digwyddiad eleni. Cynhelir Gŵyl Tawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sydd yn ardal marina’r ddinas, ar ddydd Sadwrn 7 Mehefin eleni.
Mae’r artist cerddorol profiadol, Betsan, wedi rhyddhau ei EP unigol cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 31 Ionawr.
Mae cyn-enillydd rhaglen Romeo & Duet, SJ Hill, a’r cynhyrchydd o Ogledd Cymru, Endaf, yn dod at ei gilydd unwaith eto i ryddhau eu pedwerydd trac ar y cyd, ‘Together’.
Er mwyn nodi deng mlynedd ers ei albwm a phrosiect aml-gyfrwng, ‘American Interior’, mae Gruff Rhys yn cynllunio mynd â’r sioe ar daith o’r Unol Daleithiau unwaith eto ym mis Ebrill eleni.
Mae’r rapiwr chwedlonol Mr Phormula wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ac yn gosod y safon yn uchel ar gyfer 2025 gyda’i drac newydd sbon, ‘Oi!’.
Mae prosiect newydd y cerddor cyfarwydd, Math Llwyd, wedi rhyddhau sengl gyntaf. Crwban ydy enw prosiect electronig Math, sy’n fwyaf cyfarwydd fel gitarydd y grŵp o Ddyffryn Nanllte, Y Reu.
Mae Sywel Nyw, sef prosiect diweddaraf y cerddor Lewys Wyn, yn paratoi i ryddhau ei sengl newydd ar ddiwedd mis Ionawr.
‘Cuddio Tu Ôl Y Llen’ ydy enw sengl newydd y band roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, sydd wedi’i ryddhau i gyd-fynd â’r newyddion bod ail albwm y grŵp ar y ffordd.