Sengl newydd Leigh Alexandra
Mae’r artist addawol, Leigh Alexandra, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 12 Gorffennaf.
Mae’r artist addawol, Leigh Alexandra, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 12 Gorffennaf.
Mae fideo ar gyfer y trac ‘Pwythau’ gan Alffa wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. Rhyddhaodd y ddeuawd roc o Lanrug ‘Pwythau’ fel sengl nôl ym Mehefin 2023.
Mae’r band newydd o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau eu EP cyntaf ar label JigCal. Ffurfiwyd y grŵp union flwyddyn yn ôl drwy gynllun ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl, ac maent wedi cyflawni llawer iawn mewn amser byr.
Mae Ynys wedi rhyddhau eu halbwm newydd, Dosbarth Nos, ers dydd Gwener diwethaf, 12 Gorffennaf. Cyn rhyddhau’r albwm llawn, fe wnaeth y band rannu un tamaid bach olaf i aros pryd ar ffurf y sengl ‘Shindig’ ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf.
Ifan Rhys ydy’r artist newydd diweddaraf i ryddhau cerddoriaeth trwy label Inois. Bydd Ifan yn gyfarwydd i rai fel chwaraewyr gitâr fas, a chanwr y band Orinj.
Mae’r artist cyffrous, Mali Hâf, yn ôl gyda’i sengl newydd sbon, sydd allan ar label Recordiau Côsh. ‘Esgusodion’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd allan ganddi ers dydd Gwener 12 Gorffennaf, ac oedd yn cael ei amseru’n fwriadol wrth iddi baratoi ar gyfer set yng ngŵyl Tafwyl dros y penwythnos.
Mae Gŵyl Llanuwchllyn ger Y Bala wedi cyhoeddi manylion cyntaf lein-yp eu gig nos eleni. Cynhelir yr ŵyl ym mhentref Llanuwchllyn ar 24 Awst.
Ar ddechrau mis Gorffennaf mae dwy gân Gymraeg newydd yn cael eu rhyddhau gan yr artistiaid addawol o Gymru, ADJUA ac Aisha Kigs.
Mae Ynys, y grŵp sy’n cael ei arwain gan y cerddor profiadol o Aberystwth Dylan Hughes, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs byw yn yr hydref eleni.