Anthem newydd Alffa
Mae’r ddeuawd roc o ogledd Cymru, Alffa, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. A hwythau’n enwog am fod y band Cymraeg cyntaf i weld un o’u caneuon yn croesi miliwn ffrwd ar Spotify, mae eu caneuon bellach wedi croesi cyfanswm o 8 miliwm ffrwd ar y platfform hwnnw.