Rhyddhau sengl Melda Lois ar I KA CHING
Yr artist cerddorol o ardal Y Bala, Melda Lois, ydy’r ddiweddaraf i ymuno â label I KA CHING. I nodi’r newyddion mae hefyd wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar y label ers dydd Gwener diwethaf, 8 Rhagfyr. ‘Bonne Nuit Ma Chérie’ ydy enw’r trac newydd gan Melda ac mae’n gân fydd yn taro tant gyda sawl un mae’n siŵr.