Mr yn rhyddhau manylion albwm newydd
Mae Mr, sef prosiect cerddorol diweddaraf Mark Roberts gynt o’r Cyrff a Catatonia, wedi rhyddhau albwm newydd dan yr enw ‘Misses’.
Mae Mr, sef prosiect cerddorol diweddaraf Mark Roberts gynt o’r Cyrff a Catatonia, wedi rhyddhau albwm newydd dan yr enw ‘Misses’.
Mae albwm newydd Glain Rhys allan nawr ar label recordiau I KA CHING. ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ ydy enw record hir ddiweddaraf y gantores o ardal Y Bala ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 26 Mai. ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ ydy ail albwm Glain wedi iddi ryddhau ‘Atgof Prin’ yn 2018 ar label Recordiau Sain.
Bydd albwm olaf y band chwedlonol o Fethesda, Ffa Coffi Pawb, yn cael ei ail-ryddhau i nodi 30 o flynyddoedd ers iddynt berfformio ar lwyfan am y tro olaf.
Mae Dafydd Owain wedi rhyddhau ei albwm unigol cyntaf ers 17 Mai. Uwch Dros y Pysgod ydy enw record hir gyntaf y cerddor sy’n gyfarwydd cyn hyn am ei waith gyda bandiau fel Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Omaloma a Palenco.
Mae cylchgrawn a gwefan gerddoriaeth gyfoes Y Selar wedi cyhoeddi record feinyl aml-gyfrannog newydd fydd ar gael yn ecsgliwsif yn y lle cyntaf i aelodau Clwb Selar.
Mae rhifyn newydd sbon o gylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg Y Selar allan yn y mannau arferol nawr. Rhifyn y Gwanwyn ydy hwn a’r artist amryddawn, Tara Bandito, sy’n ymddangos ar glawr y cylchgrawn.
Mae Lloyd Steele wedi rhyddhau ei ail sengl unigol. ‘Digon Da’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Mae Sŵnami wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau fersiwn newydd o’u halbwm diweddaraf, ‘Sŵnamii’, ar ffurf record feinyl.
Dros y blynyddoedd mae Y Selar wedi bod yn falch iawn o roi cyfle i artistiaid ifanc greu’r gwaith celf ar gyfer ein gwobrau cerddorol blynyddol.