Ani Glass i ryddhau EP newydd
Bydd Ani Glass yn rhyddhau EP newydd o’r enw ‘Ynys Araul’ ddydd Gwener nesaf, 11 Medi. Mae’r record fer newydd yn dilyn ei halbwm hynod lwyddiannus, ‘Mirores’ a ryddhawyd ym mis Mawrth – cipiodd yr albwm deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.