Enwi artistiaid cyntaf Gwobrau’r Selar
Gyda llai na mis i fynd nes bydd noson Wobrau’r Selar yn digwydd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi enwau rhai o’r artistiaid fydd yn perfformio yno.
Gyda llai na mis i fynd nes bydd noson Wobrau’r Selar yn digwydd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi enwau rhai o’r artistiaid fydd yn perfformio yno.
Mae rhestrau byr cyntaf Gwobrau’r Selar eleni wedi eu cyhoeddi. Caewyd pleidlais gyhoeddus y gwobrau cerddoriaeth gyfoes nos Wener (15 Ionawr), gyda’n agos at 1500 o bobl wedi bwrw pleidlais dros y 12 categori.
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod pleidlais Gwobrau’r Selar eleni bellach ar agor. Mae’r modd i chi fwrw pleidlais dros eich hoff fandiau, artistiaid, cynnyrch a llwyth o bethau SRG-aidd eraill trwy ddilyn y linc yma.
Rydym yn falch iawn i allu rhyddhau manylion cyntaf Gwobrau’r Selar eleni. Datgelwyd yn rhifyn newydd Y Selar bod y digwyddiad yn cael ei gynnal am y bedwaredd flwyddyn, a hynny ar ddydd Sadwrn 20 Chwefror.
Yws Gwynedd, Candelas a Sŵnami oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar a gynhaliwyd yn Aberystwyth neithiwr.
Dros yr wythnos diwethaf mae’r Selar wedi bod yn brysur yn cyhoeddi rhestrau byr Gwobrau’r Selar (#gwobraurselar) yn nosweithiol, a thro categori ‘Artist Unigol Gorau’ 2014 oedd hi neithiwr.
Dros y deuddydd diwethaf rydym wedi cyhoeddi dwy o restrau byr Gwobrau’r Selar eleni. Nos Lun, cyhoeddwyr rhestr fer categori ‘Record Hir Orau’ 2014, gyda Bodoli’n Ddistaw – Candelas; Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd; a Codi’n Fore – Bromas, yn cyrraedd brig y bleidlais gyhoeddus eleni.
Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi lein-yp y digwyddiad mawreddog fydd yn cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror.
Fe fydd pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar yn cau nos fory (Gwener 16 Ionawr) am 23:00. Mae gan bawb sydd heb fwrw pleidlais yn barod ychydig dros 24 awr i wneud hynny felly.