Mwy o arian i Gronfa Fideos cerddoriaeth Lŵp a PYST
Bydd cronfa ariannol Lŵp S4C a PYST ar gyfer creu fideos cerddorol Cymraeg yn dyblu er mwyn ariannu ugain fideo newydd dros y flwyddyn nesaf.
Bydd cronfa ariannol Lŵp S4C a PYST ar gyfer creu fideos cerddorol Cymraeg yn dyblu er mwyn ariannu ugain fideo newydd dros y flwyddyn nesaf.
Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) wedi cyhoeddi enillwyr yr artistiaid sydd wedi ennil eu Gwobr Trisgel eleni.
Mae’r gantores jazz pop o’r Gogledd, Malan, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf. ‘Magic’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label The Plybook ers dydd Gwener diwethaf, 15 Medi.
Mae Dafydd Hedd wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 15 Medi. ‘Bia y Nos’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y cerddor ifanc o Fethesda, ac mae allan ar label Bryn Rock.
Mae dau gerddor profiadol wedi dychwelyd gyda phrosiect newydd, a sengl gyntaf sydd allan ers dydd Gwener 15 Medi.
Mae’r band o Sir Gâr, Adwaith, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs y byddan nhw’n cynnal yn yr Iseldiroedd yn y flwyddyn newydd.
Mae Los Blancos wedi rhyddhau eu sengl newydd. ‘Ffuglen Wyddonol’ ydy enw’r cynnig diweddaraf gan y band o Sir Gâr sydd allan ar label Recordiau Libertino.
Mae’r band o Fangor, CRINC, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Sadwrn 16 Medi. ‘SRG’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Strangetown.
Mae’r triawd indie-roc o Aberystwyth, Mellt, yn ôl gyda sengl sy’n cynnig blas o’u halbwm nesaf. ‘Byth Bythol’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos ganddynt ar label Clwb Music ac mae’n damaid arall i aros pryd nes rhyddhau eu hail albwm.