Sengl newydd gan Dafydd Hedd ar y ffordd
Bydd sengl newydd gan Dafydd Hedd yn cael ei rhyddhau ar y 15 Medi. Mae’r artist gweithgar sy’n wreiddiol o Fethesda ond sy’n astudio Economeg ym Mhrifysgol Bryste ar hyn o bryd, eisoes wedi perfformio’r gân yn fyw, gan gynnwys yn Oakeleyfest, Maentwrog ar 18 Awst.