HMS Morris yn rhyddhau ‘House’
Mae HMS Morris wedi ryddhau eu sengl Saesneg ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 19 Mai. ‘ House’ ydy enw’r trac newydd ac maent hefyd wedi cyhoeddi mai enw eu trydydd albwm fydd ‘Dollar Lizard Money Zombie’.
Mae HMS Morris wedi ryddhau eu sengl Saesneg ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 19 Mai. ‘ House’ ydy enw’r trac newydd ac maent hefyd wedi cyhoeddi mai enw eu trydydd albwm fydd ‘Dollar Lizard Money Zombie’.
Mae Twm Morys a Gwyneth Glyn wedi cydweithio ar eu sengl ddiweddaraf sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 19 Mai. ‘Cymru’n Un’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd sydd allan ar Recordiau Sain.
Dafydd Hedd ydy’r artist diweddaraf i gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd electronig FRMAND. Mae’r ddau wedi dod ynghyd i ryddhau ailgymysgiad o’r trac ‘Colli Ar Fy Hun’ a ymddangosodd ar EP Dafydd, Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim’, a ryddhawyd ym Mai 2021.
Mae dau o gerddorion ifanc mwyaf arbrofol a diddorol y sin Gymraeg ar hyn o bryd wedi dod ynghyd i ffurfio prosiect cerddorol newydd dan yr enw SACHASKY.
Mae Yws Gwynedd wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 12 Mai. ‘Charrango’ ydy enw’r trac newydd gan un o ser mwyaf y sin Gymraeg ac mae hefyd wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl.
Mae’r band o Wynedd, Achlysurol, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw Rhywle Pell. Triawd o’r Felinheli ydy Achlysurol, sy’n cynnwys y brodyr Aled ac Ifan Emyr, a’u ffrind Ifan Rhys Williams.
Mae Mei Gwynedd wedi rhyddhau ei albwm newydd sy’n gasgliad o fersiynau newydd o hen ganeuon traddodiadol cyfarwydd.
‘Yn Ôl i Lydaw’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau gan y cerddor profiadol, Mered Morris.
Mae label Recordiau Sain wedi rhyddhau albwm aml-gyfrannog newydd sbon o siantis a chaneuon morwrol gyda chyfraniadau gan rai o artistiaid gwerin amlycaf Cymru.