Rhyddhau EP newydd Gwilym
Mae’r band poblogaidd, Gwilym, wedi rhyddhau eu EP newydd. Rhan Un ydy enw’r EP newydd ac mae rheswm da am hynny gan fod y record fer yn cynrychioli hanner cyntaf eu halbwm nesaf.
Mae’r band poblogaidd, Gwilym, wedi rhyddhau eu EP newydd. Rhan Un ydy enw’r EP newydd ac mae rheswm da am hynny gan fod y record fer yn cynrychioli hanner cyntaf eu halbwm nesaf.
Mae Mr, sef prosiect cerddorol diweddaraf Mark Roberts gynt o’r Cyrff a Catatonia, wedi rhyddhau albwm newydd dan yr enw ‘Misses’.
Mae albwm newydd Glain Rhys allan nawr ar label recordiau I KA CHING. ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ ydy enw record hir ddiweddaraf y gantores o ardal Y Bala ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 26 Mai. ‘Pan Ddaw’r Dydd i Ben’ ydy ail albwm Glain wedi iddi ryddhau ‘Atgof Prin’ yn 2018 ar label Recordiau Sain.
Wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Llanymddyfri yr wythnos hon, mae cân newydd wedi’i rhyddhau i nodi’r achlysur.
Mae’r cerddor o Fôn, Daf Jones, wedi rhyddhau ei sengl diweddaraf ers dydd Iau diwethaf, 25 Mai. Hon meddai ydy’r a’r ail sengl o’i albwm nesaf.
Bydd albwm olaf y band chwedlonol o Fethesda, Ffa Coffi Pawb, yn cael ei ail-ryddhau i nodi 30 o flynyddoedd ers iddynt berfformio ar lwyfan am y tro olaf.
‘Pry yn y Gwynt’ ydy enw sengl ddiweddaraf Kim Hon, ac yn debyg iawn i’r band ei hunain, mae’r trac ychydig bach yn wahanol!
Mae’r prosiect cerddorol amgen o Redditch, Ffos Goch, wedi rhyddhau EP cyntaf yn y Gymraeg . Atgofion ydy enw’r record fer newydd gan brosiect diweddaraf y cerddor profiadol Stuart Estell.
Mae Dafydd Owain wedi rhyddhau ei albwm unigol cyntaf ers 17 Mai. Uwch Dros y Pysgod ydy enw record hir gyntaf y cerddor sy’n gyfarwydd cyn hyn am ei waith gyda bandiau fel Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Omaloma a Palenco.