Sengl Gwilym ar y ffordd

Mae’r band indie-pop poblogaidd o’r Gogledd, Gwilym, yn ôl gyda’u sengl newydd sbon sydd allan ar 17 Mehefin.  ‘cynbohir’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh, a dyma’r blas cyntaf o ail albwm y grwp fydd yn cael ei ryddhau yn yr hydref.

Sengl newydd Georgia Ruth

Mae Georgia Ruth wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 27 Mai. ‘Half Forgotten Heartbreak’ ydy enw’r trac newydd, a dyma’r ail sengl i’w rhyddhau o’i EP newydd gan ddilyn ‘25 Minutes’ a ryddhawyd fis Ebrill.