Rhyddhau sengl Burum

Bydd y grŵp jazz Burum yn cynnig blas pellach o’u halbwm newydd wrth ryddhau sengl ar 24 Mehefin. ‘Pibddawns Dowlais’  ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Bopa ac mae’n dilyn yn dynn ar sodlau eu sengl ddiwethaf, ‘Cariad Cywir’ a ryddhawyd ar ddiwedd mis Mai.

Ystyr i ryddhau albwm cyntaf

Bydd y grŵp Ystyr yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ddydd Gwener yma, 24 Mehefin. ‘Byd Heb (Ystyr)’ ydy enw record hir gyntaf y grŵp a ddechreuodd ryddhau cerddoriaeth yn ddigidol ar Bandcamp yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020.