EP newydd Accü ar y ffordd

Mae Accü, sef prosiect diweddaraf Angharad van Rijswijk gynt o’r grŵp Trwbador, yn paratoi i ryddhau EP newydd. ‘Follow The Ivy‘ ydy enw’r EP 4 trac newydd sydd allan ar 10 Mehefin ac sy’n  gweld Accü ar ei mwyaf hybarch, yn gadael i’r gerddoriaeth ei thywys i fan o iachâd tu hwnt i ymylon miniog afreolus y byd.

Taith Tresor Gwenno

Mae Gwenno wedi cyhoeddi manylion taith i hyrwydd ei halbwm newydd, Tresor. Mae’r daith yn agor gyda pherfformiad yn y ‘Sea Change Festival’ yn Totnes yn Nyfnaint ar 28 Mai.