Fideo ‘Tair Ferch Doeth’
Mae fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf Chroma, Tair Ferch Doeth, wedi’i gyhoeddi ar gyfryngau digidol cyfres Lŵp, S4C.
Mae fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf Chroma, Tair Ferch Doeth, wedi’i gyhoeddi ar gyfryngau digidol cyfres Lŵp, S4C.
Mae Chroma wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Tair Ferch Doeth’ ddydd Gwener diwethaf, 6 Rhagfyr. Dechreuodd y trac newydd fel cân yn trafod sut roedd Katie Hall, prif leisydd y grŵp, yn gweld eisiau ei chyn-gariad yn Rhydychen.
Mae Chroma newydd ddychwelyd o chwarae mewn gŵyl yng Nghatalwnia gan ddweud bod y profiad yn un “anhygoel” a phwysig mewn cyfnod lle mae “diwylliannau’n cael eu cau i ffwrdd”.
Bydd Candelas a Chroma yn perfformio fel rhan o ŵyl a drefnir gan y grŵp The Joy Formidable ym mis Tachwedd eleni.
Mae’r triawd roc o’r cymoedd, Chroma wedi rhyddhau eu sengl ddwbl newydd gyda label Popty Ping. Rhyddhawyd y ddau drac newydd ddydd Gwener, 9 Tachwedd ac enwau’r caneuon newydd ydy ‘Girls Talk’ a ‘Nos Da Susanna’.
Bydd y grŵp roc o Bontypridd, Chroma, yn rhyddhau sengl ddwbl newydd gyda label Popty Ping ar 9 Tachwedd.
Cyrhaeddodd y newyddion cyffrous ynglŷn â pha artistiaid fyddai’n cael eu cynnwys ar gynllun Gorwelion y BBC ddydd Llun diwethaf, 21 Mai.
Mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi ein bod yn cydweithio â Gŵyl Ffiliffest i ychwanegu gig nos at arlwy yr ŵyl yng Nghastell Caerffili ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin eleni.
Rydan ni’n hoffi meddwl ein bod ni’n gallu adnabod talent a photensial yma yn Y Selar. A theg dweud ein bod ni’n falch iawn o weld ein ffydd ym mhotensial Alffa’n cael ei ategu wrth i’r grŵp ifanc o Lanrug gipio teitl Brwydr y Bandiau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ddydd Mercher diwethaf.