Neidio i'r cynnwys

  • Newyddion
  • Pump i’r Penwythnos
  • Clwb Selar
  • Gwobrau’r Selar
  • Gigs
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram

Categori: Newyddion

Y Selar Postiwyd ar 22 Mawrth 2025

Manylion lansiad albwm The Gentle Good

Mae The Gentle Good wedi cyhoeddi manylion lansiad ei albwm newydd, ‘Elan’. Mae’r cerddor profiadol eisoes wedi rhyddhau blas o’i record hir ddiweddaraf ar ffurf y senglau ‘Tachwedd’ a ‘Ten Thousand Acres’ gydag addewid o’r albwm llawn yn glanio ym mis Mai eleni.

Categorïau: NewyddionTagiau: The Gentle Good
Y Selar Postiwyd ar 22 Mawrth 2025

Mr Phormula’r rhyddhau sengl bwerus newydd

Mae Mr Phormula yn ôl gyda sengl ddwy-ieithog newydd bwerus sy’n siŵr o ysgwyd systemau sain ar hyd a lled y wlad.

Categorïau: NewyddionTagiau: Mr Phormula
Y Selar Postiwyd ar 20 Mawrth 2025

Elidyr Glyn yn westai ar sengl newydd Ciwb

Mae’r siwpyr-grwp o’r gogledd, Ciwb, wedi rhyddhau eu sengl newydd ynghyd ag addewid o albwm i ddilyn yn fuan.

Categorïau: NewyddionTagiau: Ciwb, Elidyr Glyn
Y Selar Postiwyd ar 19 Mawrth 2025

Rhyddhau sengl gyntaf Blodau Papur ers 2022

‘Dŵr’ ydy enw’r sengl newydd sydd wedi glanio gan Blodau Papur. Wedi cyfnod o seibiant, mae’r ‘siwpyr-grŵp’ sy’n cael eu harwain gan Alys Williams ac Osian Williams yn ôl gyda’r trac newydd.

Categorïau: NewyddionTagiau: Blodau Papur
Y Selar Postiwyd ar 19 Mawrth 2025

Gaff yn ôl gyda sengl newydd

Mae Gaff, sef enw perfformio’r cerddor profiadol Alun Gaffey, wedi rhyddhau ei sengl newydd – ‘Tomos Alun’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddo sydd allan ar label Recordiau Côsh.

Categorïau: NewyddionTagiau: Alun Gaffey, GAFF
Y Selar Postiwyd ar 14 Mawrth 2025

Breichiau Hir yn gollwng sengl arall

Wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm newydd, mae’r band roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, wedi gollwng eu sengl ddiweddaraf i gynnig blas.

Categorïau: NewyddionTagiau: Breichiau Hir
Y Selar Postiwyd ar 14 Mawrth 2025

Teyrnged Mali Hâf i fenywod annibynnol

Mae’r artist o Gaerdydd, Mali Hâf, wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n ddathliad o, ac yn ymbweru merched a’r gymuned LGBTQ+. ‘H.W.F.M’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh.

Categorïau: NewyddionTagiau: Mali Hâf
Y Selar Postiwyd ar 13 Mawrth 2025

Ymdrech ‘Wizard-pop’ gyntaf Dewin yn glanio

Ar ôl ffrwydro i amlygrwydd dros yr wythnosau diwethaf, mae’r band newydd cyffrous o Sir Benfro, Dewin, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf.

Categorïau: NewyddionTagiau: Dewin
Y Selar Postiwyd ar 13 Mawrth 2025

Sengl newydd Fleur de Lys

Mae’r band poblogaidd o Fôn, Fleur de Lys, wedi rhyddhau eu sengl newydd . ‘Fi’ ydy enw’r trac newydd ganddynt sydd allan ar label Recordiau Côsh, ac sy’n ddilyniant i’r sengl ‘Gad Ni Fod’ a ryddhawyd llynedd.

Categorïau: NewyddionTagiau: Fleur-de-Lys

Llywio cofnodion

Cofnodion hŷn
Cofnodion mwy diweddar
  • Darllen y Cylchgrawn
  • Cefndir Y Selar
  • Cysylltu
  • Clwb Senglau’r Selar
  • Gigs
  • Cwcis a phreifatrwydd

Hawlfraint © 2026 Y Selar.

Noddir gan Lywodraeth Cymru
Scroll Up