Popeth am Popeth: Cyfweliad gydag Ynyr Roberts
Gyda’r sengl newydd ‘Diva’ wedi’i rhyddhau’n ddiweddar a’r addewid o albwm newydd ar y gorwel, dyma Angharad Rhiannon yn sgwrsio gydag Ynyr Roberts o Popeth ac yn rhoi’r byd yn ei le.
Mae un arall o gystadleuwyr cyfres deledu Y Llais ar S4C wedi rhyddhau cynnyrch ar label Recordiau Côsh.
Mae Cabarela wedi rhyddhau eu sengl newydd ar gyfer Nadolig 2025. ‘Alli Di ei Deimlo?’ ydy enw’r trac sydd allan ar label Comedi Côsh gan gyflwyno un arall o glasuron Dolig Cabarela fydd yn dod yn gyfarwydd i’w cynulleidfaoedd byw.
Mae’r artist electroneg Tokomololo wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd. ‘Bazillion Bees’ a ‘Halen’ ydy enw’r ddau drac newydd sydd allan ar label HOSC.
Mae record hir cyntaf Buddug, ddaeth allan yn ddigidol fis Mehefin, bellach ar gael ar ffurf feinyl wrth i’r canwr-gyfansoddwraig o Frynrefail baratoi at ei gig yng Nghlwb Ifor Bach fis Rhagfyr.
Mae Ani Glass wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘O’r Diwedd’. Daw’r trac o ail albwm yr artist pop-electronig o Gaerdydd, ‘Phantasmagoria’ a ryddhawyd ddiwedd mis Medi.
Mae’r prosiect synthwave electroneg, Y Nos yn ôl gyda sengl newydd. Band graffeg sydd wedi’i greu gan Aled Mills ydy Y Nos, ac mae’n nhw’n brosiect unigryw iawn yn yr iaith Gymraeg.
Mae criw Tin Sardins, sy’n gyfarwydd am drefnu gigs yn ardal Caernarfon yn ôl wedi seibiant ac wedi cyhoeddi manylion ‘Gŵyl Sardins’ ym mis Ionawr. 24 Ionawr fydd dyddiad Gŵyl Sardins, ac fe’i gynhelir yn Pontio, Bangor.
Mae Maes Parcio, sef y band ifanc sydd ag aelodau o Arfon a Môn, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf sy’n fersiwn newydd o gân a ryddhawyd yn wreiddiol gan un o’r bandiau Cymraeg amlycaf.
Mae ail EP Malan wedi glanio wrth iddi baratoi ar gyfer ei thaith i Ganada. Bydd Malan yn gadael Caernarfon am Ganada fis yma, i gynrychioli Cymru gyda Gruff Rhys yng ngŵyl M for Montreal. ‘Right Here’ yw’r trac olaf i’w rhyddhau i gwblhau’r casgliad 5 trac o senglau a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.