Rhyddhau albwn cyntaf Dienw
Un o’r bandiau hynny a welodd eu cynlluniau’n cael eu harafu dipyn gan y cyfnod clo oedd Dienw, ond o’r diwedd mae’r band o Arfon wedi llwyddo i ryddhau eu halbwm cyntaf.
Mae’r prosiect cerddorol dwy-ieithog, AhGeeBe, wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 3 Tachwedd.
Mae’r band ifanc o ardal Y Bala, Mynadd, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar label Recordiau I KA CHING.
Bydd Mali Hâf yn rhyddhau ei EP newydd ar 3 Tachwedd, ac mae wedi rhyddhau sengl fel tamaid i aros pryd. ‘Jig-so’ ydy enw’r record fer newydd sydd allan drwy Recordiau Côsh.
Mae’r grŵp o’r gogledd, Dienw, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers 27 Hydref. ‘Emma’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddynt sydd allan ar label Recordiau I KA CHING, ac sy’n rhagflas o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar eu halbwm fydd yn dilyn yn fuan.
Mae Ffos Goch wedi rhyddhau EP newydd sydd â naws arswydus ymhob ystyr y gair, jyst mewn pryd i Calan Gaeaf eleni.
Mae’r grŵp metal o Fangor, CELAVI, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. ‘Bite My Tongue’ ydy enw’r trac diweddaraf sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 27 Hydref.
Mae label Recordiau Sain ar fin ail-gyhoeddi albwm ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan ac Ar Log fel y gyntaf mewn cyfres o recordiau feinyl bydd y label yn eu hail-ryddhau.
Mae Mellt wedi ryddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 27 Hydref. ‘Dim Dwywaith’ ydy enw’r record hir newydd gan y triawd o Aberystwyth, ac mae wedi’i ryddhau ar label Clwb Music.
Mae’r band o Sir Gâr, Los Blancos, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n lansio eu halbwm newydd mewn gig arbennig ddechrau mis Tachwedd.