Popeth am Popeth: Cyfweliad gydag Ynyr Roberts
Gyda’r sengl newydd ‘Diva’ wedi’i rhyddhau’n ddiweddar a’r addewid o albwm newydd ar y gorwel, dyma Angharad Rhiannon yn sgwrsio gydag Ynyr Roberts o Popeth ac yn rhoi’r byd yn ei le.
Mae Y Selar wedi cyhoeddi rhagor o rhestrau byr Gwobrau’r Selar, mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru.
Mae gwefan AM wedi cyhoeddi pedair ffilm ddogfen fer newydd am ddiwylliant cerddorol cymunedol, wrth nodi Dydd Miwsig Cymru.
Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau ei drydedd sengl o blith casgliad newydd o ganeuon. Mae ‘Rhythm yn y Glaw’ yn gân arbennig i goffáu y diweddar Charli Britton, drymiwr Edward H Dafis a ffrind mynwesol i Cleif a gweddill y band chwedlonol.
Mae label Sain wedi cyhoeddi bod holl albyms a ryddhawyd ganddynt yn y 1990au bellach ar gael ar y llwyfannau digidol.
Ar ôl llwyddiant eu tair sengl y llynedd, mae Shamoniks ac Eädyth yn cyflwyno trac newydd sbon sydd wedi’i ddylanwadu gan UK garage.
Mae trefnwyr Gŵyl y Gogs, a gynhelir yn Y Bala, wedi cyhoeddi bod tocynnau’r digwyddiad bellach ar werth.
Mae Y Brodyr Magee, sef y band o bum brawd o Gaergybi sy’n creu cerddoriaeth Gymraeg gyda naws gwerinol, wedi rhyddhau eu sengl newydd.
Mae sengl ddiweddaraf yr artist hip-hop, Knuckle MC, yn ei weld yn cyd-weithio gyda’r artist electronig Crwban. ‘B.D.O.T’ ydy enw’r sengl newydd sydd nid yn unig yn dod â’r ddau artist ynghyd, ond hefyd yn dod â’r ddau label, sef Côsh a’i chwaer-label HOSC, at ei gilydd.
Bydd yr artist gweithgar a chyffrous, Mali Hâf, yn dychwelyd gyda’i sengl ddiweddaraf ddydd Gwener nesaf, 13 Chwefror. ‘Muse’ ydy enw’r sengl ethereal indie-pop dyner a theimladwy newydd ganddi sydd allan ar label Côsh.