Cyfle cyntaf i weld….fideo ‘Mikhail’ gan Derw

“…oeddan ni isio i bobl gael syniad o sut fysa ni’n edrych a swnio’n fyw, a gweld bod ni actually yn fand go iawn” Geiriau Dafydd Dabson, gitarydd a chyfansoddwr caneuon y grŵp Derw wrth drafod pam eu bod nhw wedi penderfynu ffilmio fideos ar gyfer rhai o draciau eu EP cyntaf, Yr Unig Rai Sy’n Cofio, yn stiwdio Acapela yn yr hydref.