Sengl Nadolig Ffos Goch yn codi arian at fanciau bwyd
Rydyn ni wedi gweld llwyth o ganeuon Nadolig Cymraeg newydd eleni, ac un arall i’r casgliad yw hwnnw gan y prosiect cerddorol newydd, Ffos Goch. ‘dim eira, dim sioe’ ydy enw’r trac sydd wedi’i ryddhau ar safle Bandcamp Ffos Goch ac mae’r sengl yn un elusennol gyda holl elw’r gwerthiant yn mynd i fanciau bwyd Reddich a Coventry yn Nghanolbarth Lloegr.