Sefydlu cymdeithas labeli recordiau cyntaf Cymru
Ar ôl bod yn cyfarfod yn achlysurol ers sawl blwyddyn, mae rhai o brif labeli recordiau Cymru wedi penderfynu ffurfioli sefydlu Cymdeithas Labeli Cymru a mynd ati i ddatblygu rhaglen waith flynyddol.
Gig: Breichiau Hir, Hyll, Y Sybs – Andrew Buchan Bar, Caerdydd – 26/10/18 Dipyn o gigs bach da mewn lleoliadau amrywiol iawn penwythnos yma.
Bydd Rhys Gwynfor yn rhyddhau ei sengl newydd ddydd Gwener yma, 26 Hydref. Dyma fydd yr ail sengl i Rhys Gwynfor ryddhau ar label Recordiau Côsh.
Mae cynllun Gorwelion y BBC a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi agor ei gronfa lansio ar gyfer eleni. Mae’r gronfa yn agored i unrhyw gerddorion yng Nghymru, ac yn gwahodd ceisiadau am gyllid hyd at £2000.
Daeth newyddion hynod o drist o Gaerfyrddin ddoe wrth i leoliad cerddoriaeth amlycaf y dref, Y Parrot, gyhoeddi y byddant yn cau eu drysau am y tro olaf ar ddiwedd 2018.
Gig: Gŵyl Sŵn – Lleoliadau amrywiol, Caerdydd – 17-21/10/18 Mae pob lôn gerddorol yn arwain at Gaerdydd y penwythnos yma, gan bod Gŵyl Sŵn yn meddiannu’r brifddinas.
Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn fawr i Geraint Jarman, ac mae newyddion da pellach i ffans y cerddor o Gaerdydd.
Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi cyhoeddi’r rhestr fer derfynol ar gyfer y wobr arobryn eleni.
Bydd cyfle arall i weld y sioe gerdd ‘Mynd a Dod’ sy’n cynnwys trac sain wedi’i gyfansoddi gan y grŵp ifanc Wigwam cyn diwedd mis Hydref.
Bydd bocs-set yn cynnwys casgliad llawn o gynnyrch stiwdio’r grŵp Cymraeg amlwg o’r 1970au, Brân yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener, 19 Hydref.