Albwm Cernyweg cyntaf Gwenno ar y ffordd

Mae Gwenno wedi cyhoeddi ei bod yn paratoi i ryddhau i ryddhau ei halbwm diweddaraf yn y gwanwyn. Mae’r artist pop electroneg o Gaerdydd wedi cael seibiant haeddiannol ers rhyddhau ei halbwm Gymraeg gwych Y Dydd Olaf yn 2015 – record gipiodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Mae’r ‘Steddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer ar gyfer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, Dyma’r pedwerydd tro i’r wobr gael ei chyflwyno ac fe fydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghaffi Maes B ar faes y ‘Steddfod ddydd Gwener 11 Awst.